AM RHYS
AM RHYS
Yn wreiddiol o Ynys Môn, mi oedd Rhys Meilyr yn Alvarez Emerging Artist, gyda uchafbwyntiau Garsington Opera yn cynnwys chwarae Ein Tierhändler yn Der Rosenkavalier, ymgymryd â rôl Haushofmeister yn Der Rosenkavalier a Delmonte yn Un giorno di regno gan Verdi.
Mae hefyd wedi gweithio gyda chwmnïau eraill yn y DU, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, lle ymddangosodd fel Younger Brother yn Dead Man Walking gan Jake Heggie, yn ogystal â chymryd rhan mewn cynyrchiadau yn Glyndebourne (La bohème) a Longborough Festival Opera (Carmen a L’elisir d’amore).
Gan edrych i'r dyfodol, mae Rhys ar fin gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn ryngwladol yn Wexford Festival Opera, lle bydd yn chwarae’r rolau Seacole yn Much Ado About Nothing a'r First Croupier yn The Gambler. Yn 2027, mi fydd o’n ymestyn ei amser yn Iwerddon drwy ymddangos am y tro cyntaf gydag Irish National Opera.
Mae Rhys yn byw yng Ngogledd Cymru, ac yn angerddol dros ddathlu diwylliant Cymru drwy gerddoriaeth. Mae wedi cydweithio â chwmnïau lleol fel NEW Sinfonia ac Opra Cymru, gan berfformio mewn gweithiau newydd a gomisiynwyd i dynnu sylw at hanes cyfoethog Cymru, gan gynnwys Jac Gresffordd: I’r Goleuni Nawr (NEW Sinfonia) a Barbwr Cyfrinach y Brenin (Opra Cymru).
Y tu hwnt i lwyfan yr opera, un o'i ymrwymiadau mwyaf nodedig oedd canu ym Mhalas Buckingham i ddathlu 50 mlynedd ers arwisgiad Tywysog Charles (bellach yn Frenin), o flaen y teulu Brenhinol a gwahoddedigion enwog.
Rhys ydi’r llais Cymraeg 'Noddy' ar gyfer y rhaglen ar S4C.
Mae gan Rhys radd Meistr yn y Celfyddydau (MA) o'r Royal Academy of Music, a gradd BMus (Anrhydedd) mewn Astudiaethau Lleisiol o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Hoffai Rhys gydnabod y cefnogaeth hael a dderbyniodd yn ystod ei gyfnod datblygu: Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, The Ryan Davies Memorial Fund, The Kathleen Trust, John Clemence Trust, Sir Richard Stapley Educational Trust, The Hartsheath Charitable Trust, Leverhulme Trust Arts Scholarship, Robert Maskrey Scholarship a Clwb Rotary Llangefni.